Ein Gwasanaethau
Efallai y byddwch chi wedi sylwi erbyn hyn – rydyn ni’n creu pethau - ac os ydych chi wedi dod o hyd i ni oherwydd eich bod chi'n chwilio am bobl gyda'n sgiliau ni, yna byddwch chi'n gwybod nad ni yw'r unig bobl sy'n creu cynnwys gwych. Yr hyn sy'n ein gwneud ni'n wahanol yw ein llais, ein gweledigaeth a'n ffordd ni o adrodd stori.

Darlledu
Mae ein CV yn cynnwys amrywiaeth eang iawn o rolau a disgyblaethau sy’n golygu bod gyda ni’r gallu i adrodd eich stori chi.
Deunydd Hyrwyddo
O hysbysebion radio 30 eiliad i ymgyrchoedd cenedlaethol aml-gyfrwng, rydyn ni wedi ennill gwobrau am greu deunydd hysbysebu a marchnata sy’n creu effaith go iawn.
Oes gyda chi syniad? Mae gennym yr adnoddau.

Cacen am ddim
Iawn, does dim cacen am ddim, ond o ran hyfforddiant creadigol, does dim ffordd well na dysgu o brofiad, ac mae gennym ni ddigonedd o hwnnw. Rydyn ni wedi helpu pobl ym maes darlledu a thu hwnt i ddod o hyd i’w hochr greadigol.
