
Efallai y byddwch chi wedi sylwi erbyn hyn – rydyn ni’n creu pethau - ac os ydych chi wedi dod o hyd i ni oherwydd eich bod chi'n chwilio am bobl gyda'n sgiliau ni, yna byddwch chi'n gwybod nad ni yw'r unig bobl sy'n creu cynnwys gwych. Yr hyn sy'n ein gwneud ni'n wahanol yw ein llais, ein gweledigaeth a'n ffordd ni o adrodd stori.


Darlledu
Cyfres i blant yw Dreigiau Cadi sy’n cael ei darlledu ar S4C. Wedi’i ffilmio ar leoliad ar Reilffordd Talyllyn yng Nghanolbarth Cymru, mae Cadi, sy’n gyrru trên stêm, yn defnyddio ei rheilffordd Fictoraidd i ddysgu dwy ddraig ifanc am y byd o’u cwmpas. Mae’r gyfres gomedi, ddoniol, hon yn archwilio amrywiaeth gyfoethog o bynciau o fecaneg i fathemateg, o hanes i ddweud yr amser, o chwilio ac achub i ailgylchu.
Deunydd Hyrwyddo
Wedi’i gosod mewn amgylchedd o bres gloyw a gwaith haearn addurnedig, gyda thir mynyddig de Eryri yn gefnlen odidog i bob rhaglen, mae trenau Cadi yn teithio drwy safle treftadaeth y byd UNESCO diolch i gysylltiad hir Tal-y-llyn â’r diwydiant llechi yng Nghymru.

Cacen am ddim
Mae Dreigiau Cadi yn berffaith i’w gwylio gyda’r teulu, fel cyfres antur wreiddiol gydag ychydig o nostalgia, ac mae pob pennod yn hwyl i’r teulu cyfan, gan apelio at gynulleidfaoedd ar draws y cenedlaethau. Wedi’i ffilmio’n hyfryd gyda dilyniannau ag actorion byw, daw’r cyfan yn fyw gyda haenau o CGI a GFX deinamig i wireddu pob stori.

Daw ein dreigiau cyfeillgar a chwareus yn fyw diolch i dalentau’r Cynllunydd Pypedau,
Jess Jones, Cynllunydd y Cynhyrchiad, Dafydd Shurmer (Doctor Who, Sherlock), elfennau graffeg ychwanegol yr artist llyfrau comig adnabyddus Mike Collins, tra bod y gerddoriaeth ar gyfer y gyfres wedi’i chyfansoddi gan y cyfansoddwr Brollyman, sydd wedi ennill gwobr Emmy.
Mae’r gyfres yn cynnwys talentau actio Mabli Gwynne, Iwan John a Meilyr Sion gydag ymddangosiadau gwadd gan Tudur Owen, Catrin Fychan, Rolant Davies a Julian Lewis Jones.
Gellir dod o hyd i Gyfres 1 ar S4C, ac mae ar gael i’w gwylio eto ar S4C Clic a BBC iPlayer, tra bod Cyfres 2 wrthi’n cael ei chynhyrchu. Bydd yn cael ei darlledu yn Hydref 2024.
Some action shots...







