Rydyn ni’n cynhyrchu rhaglenni teledu apelgar
Rydyn ni’n gwmni Cymreig dwyieithog sy’n arbenigo mewn cynhyrchu cyfryngau. Mae gennym ddegawdau o brofiad ym maes Teledu a Radio, gan weithio mewn genres gwahanol, ar gyfer amrywiaeth o ddarlledwyr yn y DU ac Iwerddon, ac rydyn ni wrth ein bodd yn creu cynnwys gwych i gynulleidfaoedd.
Beth ry’n ni’n ei wneud
Gyda phortffolio sy’n cynnwys rhaglenni dogfen, teledu, radio a llawer mwy, mae ein profiad ar draws amrywiaeth o genres, platfformau a darlledwyr yn golygu ein bod yn deall yr elfen greadigol wrth greu cynnwys gwych.

Gwreiddioldeb
Beth bynnag fo’r stori, mae ein profiad ar draws gwahanol genres a phlatfformau yn golygu ein bod yn gallu cynghori ar y ffordd orau o gyrraedd eich cynulleidfa, ac yn bwysicach, pan fyddwch yn gwneud hynny, sut i siarad â nhw.

Llawn Dychymyg
Un peth nad ydyn ni byth yn brin ohono yw syniadau. O’r syniadau creadigol cychwynnol i syniadau sydd wedi’u datblygu’n llawn, rydyn ni’n hapus i ymgymryd â her. Felly tro nesaf y byddwch chi angen help ychwanegol – cysylltwch â ni.

Cydweithwyr Gwych
Rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio gydag eraill – o’r cyhoedd i wynebau adnabyddus. Boed yn gydweithio gyda darlledwyr, cwmnïau yn y sector annibynnol neu’r rheini yn y maes corfforaethol – mae pethau gwych yn digwydd pan ddaw pobl at ei gilydd.
Partneriaid



