Pwy yw Yellow Barrels?
Rydyn ni'n adrodd straeon. Dyna rydyn ni’n angerddol amdano. Dyma'r lens rydyn ni’n gweld pob prosiect drwyddo. Gall ffeithiau a ffigurau fod yn grêt, mae gwybodaeth yn aml yn hanfodol ond dim ond straeon sy’n cysylltu â ni’n emosiynol. Dim ond straeon sy’n gallu ysbrydoli.
​
Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer ein henw o'r casgenni melyn sydd i’w gweld yn y ffilm, Jaws. Yn llythrennol, fe wnaeth y casgenni hyn gadw'r cynhyrchiad i fynd pan wnaeth y siarc mecanyddol dorri. Felly pan fyddwn chi’n meddwl am ein gwaith, rydyn ni’n cymryd agwedd debyg, sef bod llawer o bethau clyfar yn digwydd o dan y dŵr, ond ar yr wyneb yr hyn sydd bwysicaf yw'r stori.
Dewch i gwrdd â’r tîm

Phil Higginson
Mae Phil wedi gweithio ar draws genres Plant, Ffeithiol ac Adloniant Ffeithiol ac fel Cynhyrchydd Datblygu. Mae ei waith yn cynnwys - Awdur/Cynhyrchydd Dreigiau Cadi - Yellow Barrels ar gyfer S4C, Awdur/Cynhyrchydd Lines of Duty - Yellow Barrels ar gyfer BBC Radio 4 a Chyfarwyddwr Bargain Hunt - BBC Studios ar gyfer BBC ONE, Cyfarwyddwr ffilmiau The One Show (BBC ONE), a Chynhyrchydd Charlotte Church: Inside My Brain - Boom Cymru ar gyfer BBC ONE Wales.
Yn gyn-bennaeth Gwasanaethau Creadigol BBC Cymru, mae Phil hefyd wedi gweithio i Universal Studios Networks, Viacom, Paramount, UK TV, TV3 Eire, ITV a Capital Radio yn Llundain. Mae hefyd wedi arwain gweithdai creadigol yn y DU ac Iwerddon.

Manon Jones
Yn Gynhyrchydd Cyfres/Cyfarwyddwr amryddawn, mae Manon hefyd yn gweithio ar draws genres Plant, Drama, Ffeithiol ac Adloniant Ffeithiol ac mae ei gwaith yn cynnwys Cynhyrchydd Cyfres/Cyfarwyddwr Dreigiau Cadi - Yellow Barrels ar gyfer S4C, Cynhyrchydd Cyfres/Cyfarwyddwr Cymru ar Gynfas (Wildflame ar gyfer S4C), Cynhyrchydd cyfres adnewyddu tai Boom Cymru, Hen DÅ· Newydd ar gyfer S4C, BBC Cardiff Singer of the World (BBC FOUR), Pobol y Cwm (S4C), Bargain Hunt (BBC ONE) a Take a Hike (BBC TWO).
Mae Manon yn siarad Cymraeg ac yn dod ag egni ac awyrgylch hamddenol a hwyliog i bob prosiect.